Hanes
Hanes Beirniadaeth Gymraeg Ddiweddar
Yn y gyfrol hon, olrheinir datblygiad Beirniadaeth Lenyddol Gymraeg o'r Ddeunawfed Ganrif hyd yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Bwrir golwg dros rai o brif feirniaid y cyfnod hir hwn. Cyfnod yw sy'n cynnwys rhai beirniaid cwbl idiosyncratig, fel Iolo Morganwg a Saunders Lewis. Yn wahanol i feirniadaeth mewn gwledydd eraill, cydnabyddir bod i 'Gerdd Dafod' le pwysig a gwreiddiol yn y maes hwn. Hyn efallai, yw'r peth mwyaf unigryw yn ein beirniadaeth ar ei hyd. Tanlinellir y lle penderfyniadol sydd i Ffurf ym meirniadaeth Gymraeg. Ond prawf ein beirniadaeth hon hefyd – yng ngwaith Iolo, J. Morris-Jones ac Alan Llwyd – fod ystyriaethau beirniadol am y Gynghanedd yn gallu bwrw goleuni ar natur gyfundrefnol llenyddiaeth yn gyffredinol. Teflir y rhwyd yn eang, tan gynnwys mathau gwahanol iawn o feirniadaeth, megis yng ngwaith Lewis Edwards, Thomas Parry, a Hugh Bevan. Arddangosir yr angen i ystyried mwy nag un dull o feirniadu ac o archwilio hanfodion llenyddiaeth. Sylwir felly ar sawl nodwedd unigolyddol a gwreiddiol sydd mewn beirniadaeth lenyddol Gymraeg. Trafodir hefyd draddodiad ffurfiol, traddodiad thematig, a thraddodiad ymrwymedig a dibennol sy'n effeithio ar y beirniaid mewn dulliau gwahanol.
Gellir lawrlwytho/edrych ar y llyfr hwn drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod: