Ymateb (A)
Dyma un o gyfres o ymatebion byr neu o helaethiad sydd wedi codi oherwydd sylwadau gan gyfeillion yr awdur. Y maent ar ffurf cyfweliadau neu lythyrau yn trafod pynciau a brofodd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.
Mae Ymateb A yn trafod cynllun i adennill yr iaith Gymraeg gan Gymry Cymraeg a Dysgwyr, cynllun y gwarentir ei lwyddiant os byddir yn ei ddilyn yn wythnosol a chyda didwylledd.
Cynllun i bedwarawd 'newydd' yw – yn lle ymddiried mewn Protest; mewn Deddf a Gorfodaeth; mewn Plant; ac mewn Cadw'r Gorffennol; ceisir canoli ar adennill ymhlith oedolion. Dangosir bod angen i'r Awdurdodau fod yn fwy ymwybodol o arweiniad angenrheidiol gan y Gwirfoddol. Dangosir sut y gellid gwneud hynny, a'r rheswm am Ganolfan Ymchwil ymarferol i fod yn gefn.